Allech chi helpu Gardd Gymunedol Penglais i ffynnu am flwyddyn arall? Yna, ystyriwch gyfrannu at ein hymgyrch cyllido torfol 2024, sy’n gysylltiedig â phrosiect adfywio bywyd gwyllt newydd cyffrous yn Aberystwyth.
Er ein bod yn y gorffennol wedi elwa o grantiau gan Gyngor Tref Aberystwyth a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â rhoddion preifat, mae’r Ardd yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr, yn aml yn talu am hadau a chompost allan o’n pocedi ein hunain.
Nawr rydym am ei roi ar sylfaen gryfach. Felly eleni rydym yn rhedeg 'crowdfunder' i dalu rhai costau sylfaenol - yswiriant, hadau ac offer - a hefyd i atgyweirio ein sied, sy'n gadael y glaw i mewn. Yn ogystal â hyn, rydym am gynyddu ein cynaeafu dŵr glaw.
Rydym yn gofyn i unrhyw un sy’n gwerthfawrogi’r Ardd i roi £5-50, yn dibynnu ar eich modd, ac yn gobeithio codi £300 i’n cadw i fynd am flwyddyn.
Rydym yn gyffrous i fod yn bartner gyda menter newydd yn Aberystwyth o’r enw Treegeneration, prosiect trigolyn Llanbadarn, Rob Squires, sy’n arloesi mewn ffordd newydd o gysylltu busnesau lleol â phrosiectau sydd o fudd i fywyd gwyllt, fel ni.
Mae hyn yn golygu y gallwch ddewis rhwng gwneud rhodd, y bydd 100% ohono’n mynd i’r Ardd, neu wneud yr hyn a elwir yn 'gyfraniad', sy’n golygu bod yr arian yn dal i fynd i ni ond eich bod yn derbyn credydau y gallwch eu gwario gyda’r busnesau sy’n cymryd rhan yn y brosiect. Mae hynny'n golygu gostyngiadau oddi ar brintiau celf, calendrau, hufen iâ, gemwaith a hyd yn oed offer deifio.
Mae Treegeneration hefyd yn cefnogi prosiect Ysgol Gymraeg i lasu iard yr ysgol, ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, felly rydym mewn cwmni da.
Gallwch wneud eich rhodd neu gyfraniad yma. (Rhowch y swm rydych am ei dalu, yna ewch i 'Cart' a'r dudalen dalu. Gan fod Treegeneration yn wasanaeth newydd nid yw'n codi tâl ar hyn o bryd, felly bydd 100% o'ch rhodd/cyfrianiad yn mynd atom ni. Dewiswch GoCardless os gallwch, gan ei fod yn rhatach, ond nodwch nad yw'n cefnogi pob banc. Dylech nodi y bydd angen i chi greu cyfrif gyda'r safle).
Diolch yn fawr, a lledaenwch y gair!
Opmerkingen