Mae wastad yn neis pan fydd gwaith caled yn cael ei gydnabod, felly roeddem yn falch iawn o ennill gwobr gan CLAS (y Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol, sy'n rhan o Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol) am ein 'lle gwyrdd a reolir gan y gymuned'.
Aeth tri aelod o Wirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth (ACV), sy’n helpu yn yr ardd yn rheolaidd, i Fachynlleth i dderbyn y wobr ar 15 Mawrth.
Yn y llun uchod mae Sara, Cameron a Bradley, gyda'r awdur garddio lleol Huw Richards.
Roedden ni yn un o bedair gardd yn y canolbarth i dderbyn gwobr, a gallwch weld mwy am Lanfach, Penparcau a Gerddi Cymunedol Borth, yn ogystal â ninnau ar y fideo yma (rydyn ni ar y diwedd).
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein cefnogi dros y blynyddoedd: Undeb y Myfyrwyr, Adran Ystadau Prifysgol Aberystwyth, yr Adran Adnoddau Dynol, Cyngor Tref Aberystwyth, prosiect Tyfu Dyfi ac unigolion, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr ffyddlon.
Rydym bob amser yn awyddus i gael gwirfoddolwyr newydd felly cysylltwch os hoffech ymuno â ni.
Comentários