top of page
Search

Llenwch eich cwpwrdd a phys a ffa o’r ardd


Pan fyddwn yn sôn am dyfu ein bwyd ein hunain gartref rydym yn tueddu i feddwl am ffrwythau a llysiau. Tomatos, saladau, moron, tatws, afalau, cyrens duon - mae cyflenwad o gynnyrch ffres o'r ardd yn gwneud byd o wahaniaeth yn y gegin.


Ond mae hefyd yn bosibl, ac yn hwyl, i dyfu bwydydd rydyn ni'n eu cysylltu'n fwy â'r cwpwrdd storio, fel grawn, a hefyd ffa a phys wedi’u sychu. Er eu bod yn cael eu tyfu fel arfer ar ffermydd âr, ac yn aml wedi eu mewnforio, mae'r bwydydd hyn yn ffynhonnell dda o brotein ac mae ganddynt hanes hynod ddiddorol hefyd.



Mae codlysiau, sef y teulu pys a ffa, yn lle da i ddechrau. Gan amlach rydym yn eu bwyta nhw yn wyrdd, ond mae’n bosib eu gadael ar y planhigyn nes bod yr hadau yn sych, ac yna eu storio am flynyddoedd. Pan fyddwch chi eisiau eu bwyta, rydych chi'n eu mwydo a'u berwi, ac maen nhw'n wych mewn stiwiau a chawliau, neu wedi'u stwnsio'n bast fel hwmws.


Er ein bod ni’n dueddol o feddwl am gynnyrch wedi’i fewnforio fel chickpeas a ffacbys (lentils) a dweud y gwir mae codlysiau sych wedi cael lle ers tro mewn bwyd traddodiadol Seisnig (wn i ddim am Gymru). Meddyliwch am bys slwtsh, pease pudding a phys Carlin, sy’n cael eu bwyta ar Sul Carlin yng ngogledd Lloegr.


I gael syniad o’r codlysiau sych y gellir eu tyfu yn y DU, a sut i’w bwyta, cymerwch olwg ar wefan Hodmedod’s. Mae’r cwmni hwn, sydd wedi’i leoli yn East Anglia, yn gweithio gyda ffermwyr i gynhyrchu codlysiau, grawn a blawd, llawer ohonynt ar gael i’w prynu mewn siopau bwyd cyflawn, a nawr mae Tesco yn dilyn eu hesiampl.


Yng Nghymru, mae ffa a phys maes yn cael eu tyfu’n bennaf i borthi da byw, lle maen nhw’n gwneud gwaith da yn cymryd lle’r soia sy’n cael ei fewnforio o ardaloedd a arferai fod yn fforestydd glaw. Pa le oedd ganddyn nhw yn hanes bwyd Cymru, byddai'n ddiddorol gwybod - efallai dim llawer - ond mae'n bosib y gallent gael dyfodol, yn enwedig wrth i’r hinsawdd newid.



Un esiampl o godlys sy'n tyfu'n dda yn y DU yw ffa maes, sydd yr un rhywogaeth (Vicia faba) â'r ffa rydym yn eu tyfu yn yr ardd ac yn bwyta yn wyrdd (broad beans), ond yn llai, ac yn cael ei sychu i fwydo i anifeiliaid. Mae’n swnio'n llawer mwy blasus o dan ei henw arall, y ffa fava. Mae hwn yn un o brif elfennau coginio’r Dwyrain Canol, ac yn wir mae’r DU yn allforio ffa maes i’r Aifft, lle cânt eu gwneud yn ful medames a ffalaffel.


Fel codlysiau, mae ffa maes yn rhoi nitrogen yn y pridd, sy'n golygu nad oes angen ychwanegu gwrtaith artiffisial. Maent yn gyfoethog mewn protein, ffibr, ffolad, a fitaminau B. Maent hefyd yn cynnwys isoflavones, sydd â phriodweddau gwrthocsidiol pwerus ac yn helpu i hybu imiwnedd. Ar ol soia, ffa maes yw un o'r ffynonellau protein cyfoethocaf o'r holl godlysiau (~26 % mewn cnydau a dyfir yn y DU).

Mae ffa maes yn destun diddordeb ym Miosffer Dyfi, fel mae’n digwydd, ac mae gan ein cymdogion yn IBERS raglen fridio lwyddiannus iawn: cafodd chwech o’r wyth math a argymhellir gan PGRO (Processors and Growers Research Organisation) o ffa gaeaf eu bridio yn Aberystwyth. Yn y cyfamser, mae Tilly Gomersall wedi bod yn cynnal ei harbrofion ei hun fel rhan o Tyfu Dyfi.


Ond yn ôl at arddio. Mae codlysiau yn hawdd i'w tyfu ac mae digon o fathau i roi cynnig arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys ffa Ffrengig neu cidnabens (Phaseolus vulgaris), sy'n dod mewn llawer o siapiau a meintiau a gellir eu tyfu i fyny gansenni neu ar ffurf llwyn. Yna mae pys sychu, fel yr amrywiaeth Latfia a dyfwyd gennym ym Mhenglais y llynedd, tra bod y ffa gwyn mawr sy'n ymddangos mewn coginio Groegaidd fel gigantes mewn gwirionedd yn fath o ffa dringo (Phaseolus coccineus, runner beans).


Mae’r Real Seeds Company yn Sir Benfro yn lle da i chwilio am bys a ffa, yn ogystal â soia a hyd yn oed bysedd y blaidd (lupins). Mae gan y Heritage Seed Library (sydd bellach ar gau tan y gaeaf nesaf) ddigonedd hefyd. Yna mae Hwb Hadau Cymru, menter newydd sy'n cynnwys ffa borlotti o’r enw annhebygol Nyrs Ardal, sy'n hanu o Ferthyr Tudful. Neu gallwch brynu cynhyrchion Hodmedod’s a’u hau fel ag y mae (mae eu pys glas yn wych ar gyfer egin pys hefyd).


Yma yng Ngardd Gymunedol Penglais mae gennym ddetholiad o hadau a arbedwyd ers y llynedd, a byddwn yn cynnal mwy o dreialon eleni. Y llynedd, fe wnaethon ni hau 10 hedyn o ffeuen frown a gwyn bert iawn o’r enw Box a chael dros 250 yn ôl, am ychydig iawn o waith (a dywedir wrthyf fod hyn yn isel!). Roedden nhw'n flasus iawn mewn caserol.


Beth am drio codlysiau sych yn eich gardd eleni, a rhoi gwybod i ni sut mae’n mynd?


Testun: Jane Powell Lluniau: Tilly Gomersall


15 views0 comments

Kommentare


bottom of page